top of page
DSCF3760.JPG

PREIFATRWYDD, MOETHUSRWYDD, GOFOD, GWEITHGAREDDAU, HWYL

Ym mwynder Maldwyn, mae croeso cynnes yn eich disgwyl.  Mae gan Tŷ Cefn lawer i’w gynnig:

 

  • Chwe stafell wely dwbl neu gefaill

  • Chwe stafell molchi

  • Croeso i blant ac anifeiliaid anwes

  • Stafell fyw a chegin eang

  • Stafell sinema 

  • Caban barbeciw ar gyfer pob tywydd

  • Twba Twym Tu Allan gyda dec haul

  • Cwrt badminton llawn-faint

  • Gardd dau erw, addas ar gyfer anifeiliaid anwes 

  • Llecyn picnic preifat gyda golyfeydd godidog

  • Digonedd o le i barcio

  • Tân coed a gwres tan-lawr

  • Cyfleusterau hygyrch gyda dwy stafell wely ar y llawr gwaelod.

 

 

 

Llety gwyliau newydd sbon yng nghanolbarth Cymru yw Tŷ Cefn, wedi ei drosi o fod yn ffermdy yn haf 2021 i fod yn hafan o foethusrwydd a thawelwch gwledig, llawn cyfleusterau modern a gweithgareddau ar gyfer pob tywydd.  

 

Mae Ty Cefn yn lety ar ben ei hun ym mhob ystyr: llecyn preifat ar gopa bryn Cefn Cyfronydd gyda’r barcud a’r boda yn hedfan uwchben yn ddyddiol.  Llecyn picnic preifat, barbeciw a dec haul yn ymyl y twba twym tu allan pan fo’r haul yn gwenu, cwrt badminton, pȇl fasged, sinema breifat a chaban barbeciw pan fydd y cymylau uwchben.  

 

Cyfle hefyd i ddarganfod trysorau canol Cymru: Castell Powis, gwyliau llenyddol a cherddorol Gregynog, trȇn bach Llanfair, siopau deniadol tref Maldwyn, a thaith fer i lan y mor yn Aberdyfi heibio i dref hanesyddol Machynlleth.  Hyn oll yng nghanol bryniau gogoneddus Sir Drefaldwyn, sydd i’w mwynhau wrth gerdded neu ar feic mynydd.

Mae mwynder Maldwyn, cartref y plygain, yn barod i’ch croesawi!

bottom of page